Llŷn yw cartref un o chwedlau caru enwocaf Cymru, stori Rhys a Meinir. Ond fel unrhyw stori ramant dda, mae ’na gymhlethdodau, ac mae’r llwybr sydd yn arwain at yr allor yn un tymhestlog! Ond tydi pob chwedl yma ddim yn drist. Stori digon digrif ydi hanes yr Arglwydd o Gastellmarch ger Abersoch. Roedd gan March ab Meirchion gyfrinach fu’n peri poen iddo am flynyddoedd. Doedd yna neb ar wyneb daear yn gwybod am ei benbleth…. nes iddo orfod torri ei wallt