Abersoch & Llŷn Tourism Partnership & TIC

Solitude of the Sea

Back to The Llŷn

There are over fifty miles of walkable coastline on the peninsula, and tucked away here and there are smugglers’ coves and hidden caves, the ideal location for a spot of relaxation. It would be difficult to snatch a bottle from the sea today, but you can still catch fish in any secluded bay. Catching mackerel by the dozen is the norm here – taste it as you never have, sea-fresh, fried for breakfast! You can walk for miles on this lovely coast, with only seagulls’ cries and scurrying wildlife breaking the silence. Then suddenly, you’ll come across a village literally caught in the sands of time. The peaceful hamlet of Porthdinllaen, with a pub set right on the beach, was once a busy little fishing harbour - now you can watch the lobster boats bobbing as you quench your thirst. You can get there by walking along the cliff-top golf course, but it’s so much more enjoyable to feel the sand between your toes as you walk along the beach from neighbouring Morfa Nefyn. But before you set off, a word of warning - check the tide times, or you may well be asking for B&B as well as a pint! This stretch of Heritage coastline is in the care of the National Trust, as is Plas yn Rhiw, a manor house set on the hillside overlooking the magnificent Hell’s Mouth beach. In springtime the woods are carpeted with snowdrops and bluebells, making it a magical place to visit.

Tawelwch y Tonnau

Fe fyddai’n anodd bachu potel o’r môr y dyddiau hyn, ond mae hi’n hawdd iawn dal pysgodyn! Mae ’na dros hanner cant o filltiroedd o arfordir ym Mhenrhyn Llyˆn, ac yn swatio yma ac acw mae ’na ddegau o byrth bychain deniadol sydd yn lefydd gwych ar gyfer prynhawn o ymlacio ger y tonnau. Tydi dal degau o fecryll yn barod i’w ffrio ddim yn anarferol, ac anodd iawn fyddai curo blas cimwch neu granc yn syth o’r cawell. Mae modd cerdded y llwybrau am filltiroedd gyda dim ond gwylanod y môr yn gwmni a thwrw’r morloi yn tarfu ar y tawelwch. Wrth ymlwybro ar hyd y traeth euraidd tawel i bentref Porthdinllaen mae hi’n hawdd iawn anghofio am y byd a’i broblemau. Yn yr oes a fu, roedd y pentref yn borthladd prysur, ond erbyn heddiw dim ond un tafarn ac ychydig o dai wedi eu lleoli droedfeddi o’r dwˆr sydd yma. Mae’r Tyˆ Coch yn lle da i dorri syched, ac er ei bod hi’n bosibl cyrraedd y llecyn diarffordd drwy gerdded ar hyd llwybr y cwrs golff, mae hi’n brafiach o lawer cael teimlo’r tywod cynnes yn ymsuddo rhwng bodiau’r traed. Ond cyn cychwyn ar y daith, gair i gall, mai’n werth bod yn ymwybodol o amseroedd y llanw, neu efallai y bydd yn rhaid gofyn am wely a brecwast yn ogystal â pheint! Eiddo yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ydi Porthdinllaen, a hwythau hefyd sydd yn gyfrifol am draeth Llanbedrog a Plas yn Rhiw. Mae’r plasty bychan hyfryd yma wedi ei leoli ar ochr y mynydd uwchlaw traeth Porth Neigwl. Yn y gwanwyn mae’r carped o lili wen fach a chlychau’r gog yn olygfa gwerth chweil 

Back to The Llŷn